Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2022 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Rhag-gyfarfod Preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn perthynas â phenodiadau cyhoeddus.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch goblygiadau ariannol Biliau.

 

2.1

PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-2024: Ymateb Comisiwn y Senedd - 8 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Diweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn Datganiad hydref y DU - 21 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol - Y Prif Weinidog a Chyngor Penaethiaid y Llywodraethau Datganoledig - 10 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU Ymateb Llywodraeth Cymru - 17 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE: Ymateb Llywodraeth Cymru - 21 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE: Ymatebion Llywodraeth y DU - 21 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.16

PTN 7 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - 23 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC) - 24 Tachwedd 2022

Dogfennau ategol:

2.9

PTN9 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 – Memorandwm Esboniadol Diwygiedig, 5 Rhagfyr 2022

Dogfennau ategol:

2.10

PTN 10 - Llythyr gan y Prif Weinidog: Craffu ar oblygiadau ariannol Biliau - 7 Rhagfyr 2022

Dogfennau ategol:

2.11

PTN 11 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus - 7 Rhagfyr 2022

Dogfennau ategol:

2.12

PTN 12 - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) ar 9 Tachwedd 2022 - 8 Rhagfyr 2022

Dogfennau ategol:

(09.30-11.00)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 1

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Busnes Llywodraeth

 

Dogfennau ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol:

 

·         Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd ddarparu nodyn ar rôl weithredol Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wrth ariannu tai cymdeithasol.

·         Nodyn ar gymorth ardrethi annomestig, yn enwedig mewn perthynas â chymhwysedd sefydliadau cenedlaethol mwy sydd â phresenoldeb ar y stryd fawr i gael cymorth ar ardrethi.

·         Nodyn ar y cynnydd a wnaed i sicrhau’r pwerau gofynnol i weithredu treth tir gwag a manylion am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

·         Nodyn ar nifer y cynlluniau Menter Cyllid Preifat yng Nghymru sydd i fod i ddod i ben yn y 5 mlynedd nesaf.

·         Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu nodyn ar unrhyw ddisgwyliad y bydd cyllid gwell ar gyfer Gofal Sylfaenol.

 

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00-11.15)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.