Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Rhag-gyfarfod Preifat - Anffurfiol (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau |
|
(09.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022 Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn perthynas â phenodiadau
cyhoeddus. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog
ynghylch goblygiadau ariannol Biliau. |
|
PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-2024: Ymateb Comisiwn y Senedd - 8 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Diweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn Datganiad hydref y DU - 21 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol - Y Prif Weinidog a Chyngor Penaethiaid y Llywodraethau Datganoledig - 10 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU Ymateb Llywodraeth Cymru - 17 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 5 - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE: Ymateb Llywodraeth Cymru - 21 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 6 - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE: Ymatebion Llywodraeth y DU - 21 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 7 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - 23 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 8 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC) - 24 Tachwedd 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN9 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 – Memorandwm Esboniadol Diwygiedig, 5 Rhagfyr 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 10 - Llythyr gan y Prif Weinidog: Craffu ar oblygiadau ariannol Biliau - 7 Rhagfyr 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 11 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus - 7 Rhagfyr 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 12 - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) ar 9 Tachwedd 2022 - 8 Rhagfyr 2022 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-11.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 1 Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr y Trysorlys Emma Watkins,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Busnes Llywodraeth Dogfennau
ategol: Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Graffu ar Gyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys;
ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol: ·
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
ddarparu nodyn ar rôl weithredol Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig wrth ariannu tai cymdeithasol. ·
Nodyn ar gymorth ardrethi
annomestig, yn enwedig mewn perthynas â chymhwysedd sefydliadau cenedlaethol
mwy sydd â phresenoldeb ar y stryd fawr i gael cymorth ar ardrethi. ·
Nodyn ar y cynnydd a wnaed i
sicrhau’r pwerau gofynnol i weithredu treth tir gwag a manylion am unrhyw
drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn. ·
Nodyn ar nifer y cynlluniau Menter
Cyllid Preifat yng Nghymru sydd i fod i ddod i ben yn y 5 mlynedd nesaf. ·
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu nodyn ar unrhyw ddisgwyliad y bydd cyllid
gwell ar gyfer Gofal Sylfaenol. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00-11.15) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |