Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (9.15 – 9.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban: Agenda codi'r gwastad - 5 Hydref 2022 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-11.00) |
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth Michelle Morris,
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock,
Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gwella Katrin Shaw, Prif
Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau Dogfennau
ategol: FIN(6)-20-22 P1 -
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 FIN(6)-20-22 P2 -
Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol
2023-24 FIN(6)-20-22 P3 -
Cynllun Strategol 2023-2026 Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a swyddogion
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 3.2 Cytunodd
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu nodyn yn egluro a fyddai
ataliad o fwy na chwe mis a roddir i gynghorydd lleol yn sbarduno isetholiad yn
awtomatig. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 20 Hydref 2022. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(11.00-11.15) |
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(11.15-11.30) |
Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Archwilio Cymru Laurie Davies,
Pennaeth Gwasanaethau Busnes, Archwilio Cymru Dogfennau
ategol: FIN(6)-20-22 P4 –
Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y papur gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch caffael gwasanaethau
archwilio allanol i Swyddfa Archwilio Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i benodi’r
cyflenwr a argymhellwyd – sef RSM – am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, yn
dechrau ar 2 Tachwedd 2022a gan gynnwys
hawl i Swyddfa Archwilio Cymru ymestyn y tymor yn flynyddol, hyd at gyfanswm
hyd o 7 mlynedd. |
|
(11.30-11.45) |
Goblygiadau ariannol Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau
ategol: FIN(6)-20-22 P5 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau. |