Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2022 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn ei gyfarfod ar 22 Medi, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o ddechrau'r cyfarfod heddiw.

Cofrestru (09.15-09.30)

(09.30-09.45)

1.

Trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

FIN(6)-18-22 P1 - Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith.

 

(09.45-10.15)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Y Prif Economegydd

Jonathan Price, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr economi gan Jonathan Price, y Prif Economegydd.

 

 

 

(10.15-10.45)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Cynllun Gwella’r Gyllideb

Matt Wellington, Pennaeth Polisi a Chyflawni’r Gyllideb, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cyllun gwella’r gyllideb (PDF, 256KB)

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Cynllun Gwella’r Gyllideb gan swyddogion Llywodraeth Cymru. 

 

(10.45-11.15)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Cyllidebu ar sail rhyw

Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar gyllidebu ar sail rhyw gan Natasha Davies, Chwarae Teg.

 

(11.15-11.45)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Brîff technegol: Cyllidebu gwyrdd

Rhiannon Hardiman, Ysgogwr Newid (Natur, Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Alex Chapman, Uwch Ymchwilydd, New Economics Foundation

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar gyllidebu gwyrdd gan Rhiannon Hardiman, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac Alex Chapman, o’r New Economics Foundation.

 

Egwyl (11.45-12.00)

Cyhoeddus

(12.00)

6.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

6.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

6.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Jack Sargeant AS yn bresennol ar ei rhan fel dirprwy.

 

(12.00)

7.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nodwyd y papur.

 

(12.00-13.00)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Craffu cyn y Gyllideb

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

 

Dogfennau ategol:

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; a swyddogion Llywodraeth Cymru mewn sesiwn cyn y gyllideb ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

 

8.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

 

·         I ofyn i'r Gweinidog(ion) perthnasol roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am effaith chwyddiant a gwerth y bunt ar Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

(13.00)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 10 a 12.

Cofnodion:

9.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.00-13.10)

10.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - Craffu cyn y Gyllideb: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

Cyhoeddus

(13.30 - 14.15)

11.

Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Julie James MS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Louise Clarke, Uwch-reolwr Polisi Cynhyrchion Defnydd

Richard Clark, Pennaeth Ansawdd Amgylchedd Lleol

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a’r Môr

 

Dogfennau ategol:

Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (PDF, 221KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.6MB)

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd; a swyddogion Llywodraeth Cymru ar oblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

 

Preifat

(14.15-14.25)

12.

Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

12.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.