Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2021 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv |
||
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30) |
||
(9:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod
rhithwir y Pwyllgor Cyllid. |
|
(09:30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 – Llythyr gan y Prif Weithredwr a'r Ysgrifennydd Parhaol, Cyllid a Thollau EM: Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol newydd Cyllid a Thollau EM ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru – 24 Medi 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu Yswiriant Gwladol – 27 Medi 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 – Llythyr gan Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Senedd yr Alban: Cydweithio – 29 Medi 2021 Dogfennau ategol: |
||
(9:30 - 10:30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth Ken Skates AS,
Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Nia Morgan,
Cyfarwyddwr Cyllid Papurau
ategol: FIN(6)-06-21 P1 –
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y
Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon
Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr
Cyllid. 3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i ysgrifennu at y Pwyllgor
mewn perthynas â’i gynlluniau i estyn allan i garfannau nad ydynt fel arfer yn
ymgysylltu â'r Senedd. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30 - 10:45) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |