Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2021 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv

Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)

(9:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

(09:30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2021

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 – Llythyr gan y Prif Weithredwr a'r Ysgrifennydd Parhaol, Cyllid a Thollau EM: Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol newydd Cyllid a Thollau EM ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru – 24 Medi 2021

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu Yswiriant Gwladol – 27 Medi 2021

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 – Llythyr gan Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Senedd yr Alban: Cydweithio – 29 Medi 2021

Dogfennau ategol:

(9:30 - 10:30)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth

Ken Skates AS, Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

 

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papurau ategol:

 

FIN(6)-06-21 P1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â’i gynlluniau i estyn allan i garfannau nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â'r Senedd.

 

(10:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:30 - 10:45)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.