Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/11/2021 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Huw Irranca-Davies AS yn dirprwyo ar ei rhan.

 

(09:30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8, 13 a 18 Hydref 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddyraniadau Covid - 14 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygiad annibynnol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi - 14 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Rhagor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor - 14 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd: Cynllun Pensiwn Aelodau Senedd Cymru – 19 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban: Adroddiad Blynyddol – 19 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 - Llythyr gan y Comisiynydd Cyllideb a Llywodraethu: Gwaith ymgysylltu Comisiwn y Senedd – 19 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Fframwaith Polisi Trethi a Chynllun Gwaith Polisi Trethi ar gyfer 2021-2026 Llywodraeth Cymru - 3 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

(09:30 - 10:30)

3.

Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2022-23 a'r Adroddiad Interim: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Lindsay Foyster, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

 

FIN(6)-09-21 P1 - Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023. 

FIN(6)-09-21 P2 - Gwybodaeth ategol ar gyfer Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.

FIN(6)-09-21 P3 – Adroddiad Interim – Asesiad o'r cynnydd a wnaed yn erbyn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2021-22 rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2021

FIN(6)-09-21 P4 - Llythyr oddi wrth Archwilio Cymru: Diweddariadau ar r adolygiad ynghylch Teithio a Chynhaliaeth a’r Cynllun Strategol Pum Mlynedd – 1 Tachwedd 2021

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru a swyddogion Archwilio Cymru ar y gwaith craffu ar Amcangyfrif 2022-23 a’r Adroddiad Interim.

 

(10:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 19 Tachwedd 2021.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:30 - 10:45)

5.

Archwilio Cymru - Craffu ar Amcangyfrif 2022-23 a'r Adroddiad Interim: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(10:45 - 11:15)

6.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

 

FIN(6)-09-21 P5 - Llythyr oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru  Amcangyfrifon 2022-23 – 21 Hydref 2021

FIN(6)-09-21 P6 - Amcangyfrif Diwygiedig 2022-23

FIN(6)-09-21 P7 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.

 

Egwyl dechnegol (11:15 - 11:30)

(11:30 - 12:00)

7.

Awdurdod Cyllid Cymru – Sesiwn ragarweiniol

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr; Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu; Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl; ac Adam Al-Nuami, Pennaeth Dadansoddi Data Awdurdod Cyllid Cymru.

 

(12:00 - 12:10)

8.

Goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Telerau ac Amodau penodi’r Ombwdsmon

Dogfennau ategol:

 

FIN(6)-09-21 P8 Telerau ac Amodau'r Ombwdsmon newydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur.

 

(12.10 - 12.20)

9.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Trafod y dull o weithredu

Dogfennau ategol:

 

Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y Gwasanaeth Ymchwil ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a chytunodd i gymryd tystiolaeth ar oblygiadau ariannol y Bil gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.