Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2021 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv

Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09:15-09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21, ac Amcangyfrif 2022-23: Sesiwn dystiolaeth

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwelliant

Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Cyfarwyddwr Ymchwiliadau

 

Papurau ategol:

FIN(6)-07-21 P1 - Llythyr gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus: Amcangyfrifon 2022/23 a'r Gyllideb Atodol 2021/22 - 28 Medi 2021

FIN(6)-07-21 P2 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

FIN(6)-07-21 P3 - Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2022-23

Gwasanaeth Ymchwil: Papur cefndir

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella; a Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020, ac Amcangyfrif 2022-23.

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 18 Hydref 2021.

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00 - 11.15)

4.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21, ac Amcangyfrif 2022-23: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15-12.00)

5.

Sesiwn friffio anffurfiol: Deall y sefyllfa ariannol yng Nghymru

David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid

Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Guto Ifan, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

Papurau ategol:

Gwasanaeth Ymchwil: Papur cefndir

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; Dr Ed Poole, Uwch-ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru; a Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru.

 

(12.00 - 12.15)

6.

Goruchwylio Archwilio Cymru - Gwasanaethau Archwilio Allanol Cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, Archwilio Cymru

Laurie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Busnes, Archwilio Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(6)-07-21 P4 - Gwasanaethau Archwilio Allanol ar gyfer Cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru: dull o gynnal gwaith caffael

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o ar gyfer caffael archwilwyr allanol Swyddfa Archwilio Cymru.