Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Mike Hedges AS fel aelod newydd o’r Pwyllgor ac a oedd yn cymryd lle Alun Davies AS.

 

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(09.30-10.10)

2.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft

Papurau ategol:

FIN(6)-02-21 P1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(10.10-10.35)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru: Trafod y dull o weithredu

Papurau ategol:

FIN(6)-02-21 P2 – Dull o graffu ar y gyllideb

FIN(6)-02-21 P3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen y gyllideb – 5 Gorffennaf 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau ar y dull arfaethedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynglŷn ag amserlen y gyllideb. 

 

(10.35-11.05)

4.

Gweithdrefnau’r Pwyllgor Cyllid a’i ffyrdd o weithio

Papurau ategol:

FIN(6)-02-21 P4 - Dull strategol o ymdrin â chylch gwaith y Pwyllgor Cyllid

FIN(6)-02-21 P5 - Gweithgarwch cynnar y Pwyllgor Cyllid

 

Adroddiad Gwaddol y Bumed Senedd – Fforwm y Cadeiryddion (PDF, 564KB)

Adroddiad Gwaddol y Bumed Senedd – Y Pwyllgor Cyllid (PDF, 1MB)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau ar weithdrefnau’r Pwyllgor a’i ffyrdd o weithio.

 

(11.05-11.15)

5.

Treth Trafodiadau Tir - Adolygiad annibynnol

Papurau ategol:

FIN(6)-02-21 P6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Trafodiadau Tir - Adolygiad annibynnol - 1 Gorffennaf 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1  Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â chwmpas yr Adolygiad Annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir.