Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofrestru (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd Alun Davies AS yn bresennol ar ei rhan fel dirprwy.

(09.30-11.30)

2.

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-22 P1 – Adroddiad drafft

FIN(6)-10-22 P2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – 24 Chwefror 2022

FIN(6)-10-22 P3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad – 11 Mawrth 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.

(11.30-11.45)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Y dull gweithredu o ran ymgysylltu

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-22 P4 – Y dull gweithredu o ran ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y dull  o ymgysylltu mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.

                 

(11.45-12.00)

4.

Trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-22 P5 - Blaenraglen waith

FIN(6)-10-22 P6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft – 3 Mawrth 2022

FIN(6)-10-22 P7 – Llythyr at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft – 16 Mawrth 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.

(12.00-12.10)

5.

Rôl Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

FIN(6)-10-22 P8 – Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol.