Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/07/2021 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Rhag-gyfarfod anffurfiol (09.15-09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod (rhithwir) cyntaf y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd; Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19 - y sefyllfa ddiweddaraf fel ar 31 Mawrth 2021 - 26 Mai 2021

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(6)-01-21 P1 - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22

FIN(6)-01-21 P2 - Dyraniadau prif grŵp gwariant

FIN(6)-01-21 P3 - Nodyn Esboniado

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, gan amlinellu ei bod yn anodd cael darlun clir gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol Barnett.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i Weinidog yr Economi i roi’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

·         dadansoddiad manwl o'r cyllid o £55 miliwn a oedd ar gael ar gyfer cymorth busnes ym mis Mai a mis Mehefin, gan gynnwys y rhesymau dros beidio â chymeradwyo ceisiadau 24 y cant o fusnesau, sut y cafodd y dyraniadau eu gwerthuso a sut y mae unrhyw danwariant o'r £55 miliwn wedi’i ailddyrannu.

 

·         rhagor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn y dyfodol o’r pecyn cymorth o £200 miliwn.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o gyfarfodydd yn y dyfodol, nes y nodir yn wahanol.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.50)

5.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.50-11.10)

6.

Gweithdrefnau’r Pwyllgor Cyllid a’i ffyrdd o weithio

Papurau ategol:

FIN(6)-01-21 P4 – Gweithdrefnau a ffyrdd o weithio y Pwyllgor Cyllid

FIN(6)-01-21 P5 – Hyfforddiant a datblygiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor papurau ar weithdrefnau’r Pwyllgor a’i ffyrdd o weithio.