Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)416 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)414 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)415 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)404 – Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

4.2

SL(6)405 – Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ragor o eglurder.

4.3

SL(6)406 – Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ragor o eglurder.

4.4

SL(6)407 – Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ragor o eglurder.

4.5

SL(6)410 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.45 - 13.50)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

5.3

Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru: 40fed Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog

(13.50 - 13.55)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi at y Llywydd: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi at y Llywydd.

(13.55 - 14.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 4 Rhagfyr 2023

Cofnodion:

Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2023.

(14.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(14.00 - 14.10)

9.

SICM(6)3 – Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor yn ffurfiol yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

(14.10 - 14.40)

10.

Egwyddorion drafft ar gyfer deddfu drwy Filiau'r DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei egwyddorion drafft ar gyfer deddfu drwy Filiau’r DU, a chytunodd i'w trafod ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(14.40 - 14.50)

11.

Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan, a chytunodd i drafod y materion hyn ymhellach yn y cyfarfod nesaf.