Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)394 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)400 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)393 - Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)396 - Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)397 - Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)388 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)392 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.45 - 13.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gohirio y Grŵp Rhyng-Weinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau) (Trothwyon) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Hysbysiad Blaenorol) a Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
(13.50 - 13.55) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth â Phrif Weinidog Cymru: y Protocol sy’n diwygio'r Confensiwn Rhyngwladol ar Gadwraeth Tiwna'r Iwerydd (Protocol Palma) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
y Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Arferion llety preswyl Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o
wybodaeth. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021–2026 – Adroddiad blynyddol 2022-23 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi
wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y
Cyfansoddiad, a chytunodd i ystyried yr adroddiad blynyddol ymhellach mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
||
(13.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.55 - 14.30) |
Bil Seilwaith (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod drafft arall yn y cyfarfod nesaf. |
|
(14.30 – 14.45) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Nododd yn ffurfiol hefyd yr ohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol, a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach. |
|
(14.45 – 15.10) |
Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad blynyddol drafft a
chytunodd i drafod drafft arall yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(15.10 – 15.25) |
Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn Saesneg yn unig: Ystyried papur trafod Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem tan ei gyfarfod
nesaf. |
|
(15.25 – 15.40) |
Adroddiad Blynyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o'i ail
adroddiad blynyddol, a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau. |