Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies ac Adam Price. Yn unol â’r cynnig y cytunwyd arno yn y cyfarfod blaenorol, cafodd y Pwyllgor ei gadeirio dros dro gan Alun Davies.

Croesawyd Carolyn Thomas a Luke Fletcher i’r Pwyllgor fel dirprwyon.

 

(13.30 - 14.30)

2.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru

Anna Hind, Uwch-gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Memorandwm Esboniadol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(14.35 - 14.40)

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)389 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(14.40 - 14.45)

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(6)388 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.2

SL(6)391 - Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Rhif 2) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

4.3

SL(6)390 - Gorchymyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y gorchymyn a chytunodd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(14.45 - 14.50)

5.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(6)382 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.50 - 14.55)

6.

Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(14.55 - 15.00)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i Argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

7.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Argaeledd data wedi'u dadgyfuno ar y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

7.3

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(15.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(15.00 - 15.30)

9.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol gyda chwestiynau atodol.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol ‘Gwnaed’

 

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol ‘Gwnaed’

 

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

(15.30 - 15.45)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.