Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes Cofnodion: Nid oedd unrhyw Offerynnau Statudol i'w trafod yr wythnos
hon. |
|
(13.35 - 13.40) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth at y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ar gyfer y cofnod ffurfiol ei lythyr at
y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeiryddion Pwyllgorau: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
Ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ar gyfer y cofnod ffurfiol ei
dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion
Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin i Allu
Datganoli yn Whitehall. |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac
Adfywio. |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygiadau ar ôl y cynnig cydsynio ar y Bil Ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes. |
||
(13.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 16 Hydref 2023 Cofnodion: Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol
Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol
Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer ei
gyfarfod ar 16 Hydref 2023. |
|
(13.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.50 - 14.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
|
(14.00 - 14.20) |
Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd wedi dod
i’r amlwg yn ystod ei ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE, a chytunodd i
drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(14.20 - 14.30) |
Gwella dealltwriaeth rhanddeiliaid o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a'i heffaith ar gyfraith Cymru: Gwybodaeth gefndir Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am waith Dr.
Thomas Horsley, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Ymchwil y Senedd ac sy’n
asesu effaith Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar gymwyseddau datganoledig yng
Nghymru. |