Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.15 - 14.30)

2.

Bil Seilwaith (Cymru): sesiwn dystiolaeth

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Neil Hemington, Prif Gynllunydd, Llywodraeth Cymru

Owen Struthers, Pennaeth Cydsynio Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru

Nicholas Webb, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

(14.35 - 14.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

3.1

SL(6)379 - Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)380 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)381 - Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Adferol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(14.40 - 14.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Grwp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.

(14.45 - 14.50)

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.

5.2

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd.

(14.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(14.50 - 15.05)

7.

Bil Seilwaith (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau pellach.

(15.05 - 15.15)

8.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

  • Protocol Derbyn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i Gytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP);
  • Confensiwn y DU-Norwy-Liechtenstein-Gwlad yr Iâ ar Gydgysylltu Nawdd Cymdeithasol;
  • Protocol yn diwygio'r Confensiwn Rhyngwladol ar Gadwraeth Tiwna'r Iwerydd (“Protocol Palma”);
  • Cytundeb Gwasanaethau Awyr y DU-Canada;
  • Trafnidiaeth Ffyrdd Rhyngwladol y DU-Azerbaijan;
  • Cytundeb Gwasanaethau Awyr y DU-Saint Vincent a’r Grenadines.

Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw pwyllgorau perthnasol Senedd Cymru a Senedd y DU at yr adroddiad.