Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.00 - 14.05)

2.

Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Sesiwn dystiolaeth

Panel 1

Charles Whitmore, Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru

Tom Jones, cynrychiolydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Fforwm Cymdeithas Sifil y DU-UE

Brigid Fowler, Cymdeithas Hansard

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Charles Whitmore,

Tom Jones, a Brigid Fowler.

(14.15 - 15.20)

3.

Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Sesiwn dystiolaeth

Panel 2

Yr Athro Tobias Lock, Prifysgol Maynooth

Lisa Whitten, Prifysgol Queen’s Belfast

Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Tobias Lock, Dr Lisa Whitten, a Dr Elin Royles.

(15.25 - 15.30)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

4.1

SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(15.30 - 15.35)

5.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(6)362 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(15.35 - 15.40)

6.

Fframweithiau cyffredin

6.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(15.40 - 15.45)

7.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

7.1

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

7.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

(15.45 - 15.50)

8.

Papurau i'w nodi

8.1

Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach.

8.2

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Papur Gwyn – System Dribiwnlys Newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

8.3

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

(15:50 – 15:55)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod Pwyllgor ar 3 Gorffennaf 2023

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 3 Gorffennaf 2023.

(15.55)

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(15.55 – 16.05)

11.

Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(16.05 – 16.15)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

(16.15 – 16.55)

13.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod adroddiad diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd, fe drafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd.

(16.55 – 17.05)

14.

Adolygiad o oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gael rhagor o wybodaeth am safbwynt Llywodraeth Cymru.

 

Made Negative Resolution Instruments

 

Made Negative Resolution Instruments

 

Affirmative Resolution Instruments