Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.30 - 14.30)

2.

Sesiwn dystiolaeth gyda Swyddfa’r Farchnad Fewnol

Murdoch MacLennan, Cadeirydd Panel Swyddfa’r Farchnad Fewnol

James Waugh, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Farchnad Fewnol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol.

(14.30 - 14.35)

3.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

3.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

3.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

3.3

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.

3.4

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â'r UE) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.

3.5

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i dderbyn cynnig y Gweinidog i rannu gwybodaeth am yr Adran dros Fusnes a Masnach â’r Pwyllgor.

(14.35 - 14.40)

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Sefydliad Bevan i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.

4.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Amgylchedd Bwyd Iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion yn dilyn datganiad y Dirprwy Weinidog ar 27 Mehefin ac yn amodol ar y datganiad hwnnw.

(14.40 - 14.45)

5.

Gohebiaeth yn ymwneud â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

(14.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(14.45 - 14.55)

7.

Sesiwn dystiolaeth gyda Swyddfa’r Farchnad Fewnol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a gafwyd gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol.

(14.55 - 15.10)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

(15.10 - 15.25)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod rhai mân newidiadau y tu allan i’r cyfarfod.

(15.25 - 15.30)

10.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

(15.30 - 15.35)

11.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

 

  • y DU a Sbaen: Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol a Chyfnewid Trwyddedau Gyrru Cenedlaethol ac ar Gyfnewid Gwybodaeth am Droseddau Traffig Cysylltiedig â Diogelwch Ffyrdd

 

  • y DU a Ffrainc: Cytundeb ynghylch ardystio diogelwch mewn cysylltiad â gwasanaethau trafnidiaeth rheilffyrdd drwy Gysylltiad Sefydlog y Sianel Link

Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw pwyllgor perthnasol yn y Senedd at y cytundeb rhyngwladol cyntaf.

(15.35 - 15.50)

12.

Trafod gohebiaeth yn ymwneud â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth yn ymwneud â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.