Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)355 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

3.1

SL(6)356 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)358 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

4.1

SL(6)357 – Y cod apelau derbyn i ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(13.45 - 13.50)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau, Gwrthwynebiadau ac Ymchwiliadau) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

5.3

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

(13.50 - 13.55)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr y mae wedi’i anfon at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunwyd y byddai'n gwneud ei orau i ystyried y Rheoliadau yn gynnar.

6.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.

6.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

(13.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.55 - 14.05)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Hefyd, nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.

(14.05 - 14.15)

9.

Ymchwiliad i lywodraethu o ran y DU a'r UE - ystyried y cylch gorchwyl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i lywodraethu o ran y DU a’r UE a chytunodd arno.