Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans AS. Dirprwyodd Peter Fox AS ar ei ran.

(13.00 - 13.05)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

2.1

SL(6)337 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.05 – 13.10)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

3.1

SL(6)332 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(5)335 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)336 - Rheoliadau’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pywllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth.

3.4

SL(6)338 – Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.5

SL(6)339 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

3.6

SL(6)340 - Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pywllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am ragor o wybodaeth.

(13.10 – 13.15)

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)330 – Gorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru) (Ymadael â'r UE) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.15 – 13.20)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.

(13.20 – 13.25)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog.

6.2

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd.

6.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

6.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog.

6.5

Gohebiaeth gyda’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog.

6.6

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Llywydd: Bil Mudo Anghyfreithlon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Llywydd.

(13.25)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.25 – 13.35)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.

(13.35 – 13.50)

9.

Fframweithiau Cyffredin: Materion o bwys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.

(13.50 – 13.55)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

(13.55 – 14.00)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3 (Memorandwm Rhif 3), a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod ei gyfarfod nesaf.

(14.00 – 14.10)

12.

Cyfiawnder yng Nghymru: Gohebiaeth ynghylch tystiolaeth lafar a ddarparwyd gan yr Arglwydd Bellamy KC, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a gafodd gan randdeiliaid fel rhan o’i alwad wedi’i thargedu am farn ar y dystiolaeth lafar a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Bellamy, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, ar 5 Rhagfyr 2022. Hefyd, trafododd y Pwyllgor ymateb drafft i'r Arglwydd Bellamy a chytuno arno.

(14.10 – 14.40)

13.

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno. Hefyd, trafododd y Pwyllgor ei ohebiaeth â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog.