Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans AS. Roedd Samuel Kurtz AS yn bresennol fel dirprwy.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

2.1

SL(6)331 – Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

2.2

SL(6)334 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 – 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

3.1

SL(6)329 – Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)330 – Gorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru) (Ymadael â'r UE) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

(13.45 - 13.55)

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes.

5.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes.

5.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Y weithdrefn Biliau Aelodau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes.

5.4

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

(13.55)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.55 - 14.05)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig o’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

(14.05 - 14.15)

8.

Adroddiad Monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am Fframwaith Windsor y DU a’r UE.

(14.15 - 14.35)

9.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.

(14.35 -14.45)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 4 a'r ohebiaeth â'r Trefnydd, y Cwnsler Cyffredinol a'r Pwyllgor Busnes, a chytunodd i ymateb i'r Trefnydd.

(14.45 - 14.55)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 6, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod ei gyfarfod nesaf.

(14.55 - 15.05)

12.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 13 Mawrth 2023, a chytunodd arno.