Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)300 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)304 – Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi eu Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt
adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)305 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)306 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)297 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)279 - Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)292 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)291 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.45 - 13.50) |
Fframweithiau cyffredin |
|
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a’i nodi. |
||
(13.50 - 13.55) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, Diddymu a Darpariaethau Trosiannol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y
Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Presenoldeb yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y
Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyngor y Gweinidogion Addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Gweinidog. |
||
(13.55 - 14.05) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg gartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth
Leol a Thai. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Caffael Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a
chytunwyd i ysgrifennu yn gofyn am eglurhad pellach. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.05 - 14.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i
drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf. |
|
(14.15 – 14.25) |
Y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3 a Rhif 4, a chytunodd arno. |
|
(14.25 – 14.35) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU, chytunodd
i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf. |
|
(14.35 – 14.55) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) a chytunodd i ystyried
ei adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(14.55 - 15.05) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor gytundebau rhyngwladol perthnasol.
Cytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf. |