Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd James Evans AS i'r Pwyllgor a diolchodd i Peter Fox AS am ei waith ar y Pwyllgor.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

 

(11.30 - 11.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

2.1

SL(6)202 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

(11.35 - 11.40)

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

3.1

SL(6)203 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

(11.40 - 11.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Etholiadau Senedd Ewrop (Diwygio a Dirymu) (y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

4.2

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Presenoldeb yn y cyfarfod rhynglywodraethol ar 16 Mai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

4.3

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020: Gwaharddiadau o Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad - Rheoliadau Plastigau Untro 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

4.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyrau gan Weinidog yr Economi.

 

4.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Grŵp Rhyngweinidogol Gweinidogion Iechyd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

(11.45 - 11.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Gwladol at Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Adolygu Llawlyfr y Cabinet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Gwladol at Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad.

 

5.2

Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Rhaglen a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfu i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

(11.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.50 - 11.55)

7.

Mynediad at gyfiawnder: Crynodeb o'r gwaith ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y crynodeb o’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r gwaith grwpiau ffocws a gynhaliwyd gan Dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd ar fater mynediad at gyfiawnder yng Nghymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         cyhoeddi'r crynodeb;

·         ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ofyn am eu barn am yr adroddiad.

 

(11.55 - 12.05)

8.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.