Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.00 - 14.00)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Dr Andrew Goodall CBE, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru ar ddull Llywodraeth Cymru o ddeddfu.

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)262 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.

3.2

SL(6)264 – Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.

(14.05 - 14.10)

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

4.18

SL(6)266 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir etc.) (Diwygio) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.2

SL(6)259 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022

Gorchymyn [Saesneg yn unig]

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(14.10 - 14.15)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

5.2

Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Rheoliadau Plâu Planhigion (Awdurdodiadau) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r llythyr gan y Gweinidog.

 

5.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

(14.15 - 14.20)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog.

6.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.

 

6.3

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundebau rhwng y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

6.4

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymgynghoriad ar Fil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol.

(14.20)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(14.20 - 14.35)

8.

Sesiwn graffu gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a'r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Parhaol ar ddull Llywodraeth Cymru o Ddeddfu.

 

9.

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a chytunodd arno.

 

(14.55 - 15.05)

10.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur briffio ar nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd hyd yma yn ystod y Chweched Senedd a thrafododd ei waith parhaus.

(15.05 - 15.10)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU a chytunodd arno.

(15.10 - 15.20)

12.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.