Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.00 - 14.30)

2.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol yn dilyn y sesiwn gyda nifer o gwestiynau pellach.

 

(14.30 - 14.50)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

3.1

SL(6)230 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Llywydd.

 

3.2

SL(6)231 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol 

 

 

3.3

SL(6)222 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(6)225 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

3.5

SL(6)226 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

3.6

SL(6)227 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

3.7

SL(6)229 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Yn ystod y sesiwn breifat, dywedodd y Clerc wrth y Pwyllgor fod y Rheoliadau hyn wedyn wedi cael eu tynnu'n ôl gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfarfod y Pwyllgor.

 

3.8

SL(6)232 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

 

(14.50 - 14.55)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)218 - Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

4.2

SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

(14.55 - 15.00)

5.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

5.1

WS-30C(6)010 - Rheoliadau Etholiadau Senedd Ewrop (Diwygio a Dirymu) (Y Deyrnas Unedig a Gibraltar) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau.

 

(15.00 - 15.05)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.

 

6.2

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

6.3

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Guernsey

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

 

(15.05 - 15.10)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Threchu Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

7.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

(15.10)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.10 - 15.20)

9.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

(15.20 - 15.30)

10.

Trafod cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

·                Protocol yn ymwneud â diwygiad i Erthygl 56 o'r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol;

·                Protocol yn ymwneud â diwygiad i Erthygl 50(a) o'r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol; 

a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft ar y cytundebau y tu allan i'r Pwyllgor er mwyn caniatáu i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn y terfynau craffu perthnasol.

 

(15.30 - 15.40)

11.

Adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro.

 

(15.40 - 16.05)

12.

Adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ddychwelyd at fersiwn ddiwygiedig yn dilyn toriad yr haf.

 

(16.05 - 16.15)

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd), a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

14.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(16.25 - 16.35)

15.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.