Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Anfonodd James Evans AS ei ymddiheuriadau. Dirprwyodd Tom Giffard AS ar ei ran.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

2.1

SL(6)210 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

(13.35 - 13.45)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

3.1

SL(6)212 - Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(6)214 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol 

 

 

3.3

SL(6)213 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd ac, yn ogystal, i adrodd bod rheoliad 3(1) o'r rheoliadau hefyd yn cynnwys cyfeiriad anghywir at reoliad 3, lle y dylai gyfeirio at reoliad 2.

 

(13.45 - 13.50)

4.

Fframweithiau cyffredin

4.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Weinidog yr Economi, a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Fframweithiau Cyffredin Dros Dro ar gyfer Taliadau Hwyr a Chaffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

(13.50 - 13.55)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

(13.55 - 14.00)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Mesur Hawliau Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a’r ohebiaeth gan yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.

 

6.2

Gohebiaeth gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, Awyr Iach Cymru a Greener UK at y Prif Weinidog: Mae Cymru angen mynediad at gyfiawnder amgylcheddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, Awyr Iach Cymru a Greener UK at y Prif Weinidog.

 

(14.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.00 - 14.20)

8.

Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd: Rôl y pwyllgor cyfrifol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio am rôl y pwyllgor cyfrifol wrth graffu ar Ddeddfau Cydgrynhoi'r Senedd.

 

(14.20 - 14.35)

9.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau a chytunodd arno.

 

(14.35 - 14.45)

10.

Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷr Cyffredin ynghylch Cynrychiolaeth y DU yn yr UE: beth sydd wedi newid a sut mae’n gweithio?’, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau.