Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.00-14.30

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder

- Llywodraeth Cymru

Adam Turbervill, Uwch Gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol - Llywodraeth Cymru

Robert Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Thribiwnlysoedd Cymru - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â materion o fewn ei gylch gwaith.

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

14.45-14.50

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

 

3.1

SL(6)205 – Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

3.2

SL(6)208 – Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

 

 

3.3

SL(6)206 – Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

14.50-14.55

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

 

4.1

SL(6)207 – Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(6)209 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

14.55-15.00

5.

Fframweithiau cyffredin

5.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

 

5.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframweithiau Cyffredin Dros dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

15.00-15.05

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd Aelodau’r Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog a chan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd yr Aelodau i ymateb cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a gaiff ei gynnal ar 29 Mehefin.

 

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

6.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Canlyniad cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

6.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Darparu crynodebau ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.

 

15.05-15.10

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – Penodi Panel Arbenigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

7.2

Gohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder.

 

15.10

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

15.10-15.25

9.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

15.25-15.40

10.

Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yn ymwneud â Chytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE, a thrafododd ei ganfyddiadau cynnar yn sgil blwyddyn gyntaf y Pwyllgor ar waith. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷr Cyffredin ynghylch ‘Cynrychiolaeth y DU yn yr UE: beth sydd wedi newid a sut mae’n gweithio?’

 

15.40-15.55

11.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 6 Mehefin 2022 – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 6 Mehefin 2022, a chytunodd arno.

 

15.55-16.10

12.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.