Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)176 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.45)

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)175 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)177 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)178 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.4

SL(6)182 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.5

SL(6)180 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2022

Rheoliadau (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.6

SL(6)185 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.7

SL(6)186 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.45 - 13.50)

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)118 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

(13.50 - 14.00)

5.

Fframweithiau cyffredin

5.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y fframweithiau cyffredin dros dro ar Ddiogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd; Diogelwch ac Ansawdd Gwaed; ac Organau, Meinweoedd a Chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

5.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Gemegau a Phlaladdwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

5.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Iechyd a Lles Anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

5.4

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Reoli a Chefnogi Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

(14.00 - 14.05)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth at y Prif Weinidog: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Prif Weinidog.

(14.05 - 14.15)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

7.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar dreialu trefniadau pleidleisio hyblyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

7.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

7.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cynllun Masnachu Allyriadau y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

(14.15)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(14.15 - 14.25)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain – Trafod y nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Iaith Arwyddion Prydain, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau – Trafod y nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ynglŷn â’r memorandwm atodol.

 

Nododd y Pwyllgor fod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil wedi’i threfnu ar gyfer 29 Mawrth 2022. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’n cyflwyno adroddiad ar y memorandwm atodol yn sgil y terfyn amser tynn ar gyfer gwneud hynny.

(14.35 - 14.45)

11.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

(14.45 - 15.15)

12.

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

(15.15 - 15.25)

13.

Y rhaglen fframweithiau cyffredin – I’w hystyried

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y rhaglen fframweithiau cyffredin, a chytunodd arno.

(15.25-15.35)

14.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd na fyddai’n cyflwyno adroddiad arno yn sgil y terfyn amser tynn ar gyfer gwneud hynny.