Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30 - 14.30

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Piers Bisson, Cyfarwyddwr: Pontio Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru

Adam Turbervill, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch canlyniad yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol a dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu.

 

14.30 - 14.35

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)164 - Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

3.2

SL(6)166 - Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

3.3

SL(6)168 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

14.35 - 14.40

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(6)163 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(6)167 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

14.40 - 14.45

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

Dogfennau ategol:

5.1

SL(6)165 - Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth a Thrwyddedeion Cyflenwi Dŵr) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

14.45 - 14.50

6.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

6.1

SL(6)126 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

6.2

SL(6)157 - Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

14.50 - 14.55

7.

Fframweithiau cyffredin

7.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu cysylltiedig â maeth, cyfansoddiad a safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

7.2

Gohebiaeth gan Bwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith ar Gymorth Amaethyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Bwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷr Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

 

14.55 - 15.00

8.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

8.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Gwaharddiadau Ifori (Cosbau Sifil) 2022 a Rheoliadau Deddf Ifori 2018 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

8.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

8.3

Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a'r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi.

 

8.4

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

 

8.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

15.00 - 15.10

9.

Papurau i'w nodi

9.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal (memoranda rhif 2 a rhif 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

9.2

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

9.3

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

9.4

Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

 

9.5

Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Y Diweddaraf am Safleoedd Rheoli Ffin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi.

 

9.6

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

15.10

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

15.10 - 15.20

11.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.20 - 15.30

12.

Trafod cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Confensiwn ar y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cymhorthion Mordwyaeth Forol

a’r Cytundeb rhwng y DU, Ffrainc a'r Almaen ar Adeiladu a Gweithredu Adweithydd Fflwcs Niwtron Uchel Iawn, a chytunodd i ystyried adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2022.

 

15.30-15.45

13.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a chytunodd i ysgrifennu ato i ofyn am ragor o wybodaeth.