Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(14.00-14.15) |
Fframweithiau cyffredin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
|
Fframwaith cyffredin dros dro ar gymorth amaethyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor
Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr
Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar
gymorth amaethyddol. |
||
Fframwaith Cyffredin dros dro ar reoli pysgodfeydd a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Bwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig, a’r ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar
Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a
Materion Gwledig ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar reoli pysgodfeydd
a chefnogaeth. |
||
Fframwaith cyffredin ar sylweddau dros dro sy'n disbyddu osôn a nwyon tŷ gwydr fflworinedig Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith
ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar sylweddau
sy'n disbyddu osôn a nwyon tŷ gwydr fflworinedig. |
||
Fframwaith cyffredin dros dro ar iechyd anifeiliaid Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor
Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr
Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar
iechyd anifeiliaid. |
||
(14.15-14.20) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cydsynio i reoliadau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Gorchymyn Bwrdd Datblygu
Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2022. |
||
(14.20-14.30) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif
3) ar y Bil Iechyd a Gofal. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2022-23. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at
y Llywydd ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Heddlu,
Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a llwyth gwaith y dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cynlluniau gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol
mewn perthynas â rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth y DU.
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a llwyth gwaith y dyfodol. |
||
Gohebiaeth gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd: Terminoleg briodol i ddisgrifio pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch terminoleg briodol i
ddisgrifio pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch i’w adroddiad
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil
Rheoli Cymorthdaliadau. |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant, Senedd yr Alban: Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gynullydd Pwyllgor y
Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant yn Senedd yr Alban ynghylch
ymchwiliad y pwyllgor hwnnw i farchnad fewnol y DU. |
||
(14.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.30-14.45) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a
chytunwyd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(14.45-14.50) |
Trafod cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundeb rhwng y DU a Serbia ar
Aildderbyn Pobl sy'n Preswylio heb Awdurdod, a chytunwyd i drafod ei adroddiad
drafft ar y cytundeb yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2022. |
|
(14.50-15.05) |
Rhaglen fframweithiau cyffredin - trafodaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y rhaglen fframweithiau cyffredin a
chytunwyd i drafod camau gweithredu pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15.05-15.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rhenti Masnachol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil
Rhenti Masnachol (Coronafeirws). |