Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - Gohiriwyd tan 14 Mawrth 2022

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gohiriwyd y sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad tan 14 Mawrth 2022.

 

13.30 - 13.35

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i'w codi o dan Reol 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)154 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

3.2

SL(6)156 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

13.35 - 13.45

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(6)157 - Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(6)158 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.3

SL(6)159 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.4

SL(6)160 - Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.5

SL(6)162 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.6

SL(6)155 - Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.7

SL(6)161 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

13.45 - 13.50

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7

Dogfennau ategol:

5.1

SL(6)153 - Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

13.50 - 13.55

6.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

6.1

SL(6)148 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a nododd ef.

 

13.55 - 14.00

7.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

7.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

7.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

7.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: COP26 rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

14.00 - 14.10

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

8.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

8.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

8.4

Datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog: Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.

 

8.5

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

8.6

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban: Ymchwiliad i ddefnyddio’r weithdrefn gwneud cadarnhaol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Bwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban.

 

8.7

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Canfyddiadau ymgysylltiad ynghylch blaenoriaethau’r Chweched Senedd â phlant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

8.8

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

14.10

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth - Gohiriwyd tan 14 Mawrth 2022

Cofnodion:

Gohiriwyd y sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad tan 14 Mawrth 2022.

 

14.10 - 14.20

11.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 14 Chwefror 2022 - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a ystyriwyd yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2022, a chytunodd arno.

 

14.20 - 14.30

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael), a chytunodd arno.