Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30 - 13.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)127 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

13.35 - 13.40

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)135 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

13.45 - 13.50

4.

Fframweithiau cyffredin

4.1

Fframwaith Cyffredin Arfaethedig ar gyfer Amddiffyn Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn cysylltiad â’r fframwaith cyffredin ar gyfer Amddiffyn Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd.

 

4.2

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Organau, Meinweoedd a Chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn cysylltiad â'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau).

 

13.50 - 13.55

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gorchymyn Deddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018 (Cymorth Anabledd a Rhannu Gwybodaeth) (Darpariaeth Ganlyniadol ac Addasiadau) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

 

5.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Economi.

 

13.55 - 14.00

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Hygyrchedd cyfraith Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

6.2

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

 

6.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

6.4

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ystyried llythyr drafft yn gofyn am ragor o wybodaeth yn ei gyfarfod nesaf.

 

14.00

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig

 

14.00 - 14.10

8.

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân ddiwygiadau.

 

14.10 - 14.20

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd arno, a nododd y byddai’n cael ei osod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

14.20 - 14.30

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

14.30 - 14.40

11.

Adolygiad o amserlen a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar faterion i'w cynnwys mewn ymateb i lythyr y Llywydd ar yr adolygiad o amserlen a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau.

 

14.40 - 14.50

12.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â'i flaenraglen waith a chytunodd i ystyried blaenraglen waith fanylach yn y cyfarfod nesaf.