Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 17/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd Darren
Millar AS ar ei ran. |
|
13.30 - 14.45 |
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Mick Antoniw AS,
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad James Gerard,
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith Llywodraeth Cymru ar
gyfiawnder a gweithredu Comisiwn Thomas, ac ar faterion yn ymwneud â chyllideb
ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. |
|
14.45 - 14.50 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)116 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.50 - 15.00 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)121 - Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)126 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)123 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)115 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)114 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
15.00 - 15.05 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)102 - Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)118 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Yn
ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o
eglurhad. |
||
15.05 - 15.10 |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
at y Pwyllgor Busnes. Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno i’r
cais i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Gwastraff ac Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad, a’i fod yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am fwriad
Llywodraeth Cymru i gydsynio i Orchymyn Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018
(Cymorth i Bobl Anabl a Rhannu Gwybodaeth) (Darpariaeth ac Addasiadau
Canlyniadol) 2022. |
||
15.10 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
15.10 - 15.20 |
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth. Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei
sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a sut y byddai'n
llywio gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried
llythyr drafft at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Gyllideb ddrafft ar gyfer
2022-23 yn ei gyfarfod nesaf. |
|
15.20 - 15.30 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) Llywodraeth Cymru
ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a chytunodd arno. Nododd y
Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm. |
|
15.30 - 15.40 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol,
a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf. |
|
15.40 - 15.50 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal, a
chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
15.50 - 16.00 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws). Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), a chytunodd i
drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
16.00 - 16.10 |
Craffu ar hysbysiadau Llywodraeth Cymru: Cydsyniad i Offerynnau Statudol a wneir gan Lywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod, a chytunodd ar ei ddull o graffu
o ran bod Llywodraeth Cymru yn cydsynio i Lywodraeth y DU wneud Offerynnau
Statudol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
ofyn am eglurhad ynghylch ei dull o hysbysu’r Senedd am benderfyniadau cydsynio
o’r fath. |
|
16.10 - 16.20 |
Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r datganiad ysgrifenedig
gan y Prif Weinidog mewn perthynas â’r adolygiad o Gysylltiadau
Rhynglywodraethol. |
|
16.20 - 16.30 |
Yr adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ei drafodaeth ar yr
adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau tan y cyfarfod dilynol. |