Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd Darren Millar AS ar ei ran.

 

13.30 - 14.45

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder a gweithredu Comisiwn Thomas, ac ar faterion yn ymwneud â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

 

14.45 - 14.50

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)116 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

14.50 - 15.00

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

4.1

SL(6)121 - Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(6)126 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.3

SL(6)123 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.4

SL(6)115 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.5

SL(6)114 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

15.00 - 15.05

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

5.1

SL(6)102 - Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

5.2

SL(6)118 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad.

 

15.05 - 15.10

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Pwyllgor Busnes. Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno i’r cais i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau.

 

6.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Gwastraff ac Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

6.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

6.4

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’i fod yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am fwriad Llywodraeth Cymru i gydsynio i Orchymyn Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018 (Cymorth i Bobl Anabl a Rhannu Gwybodaeth) (Darpariaeth ac Addasiadau Canlyniadol) 2022.

 

15.10

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

15.10 - 15.20

8.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a sut y byddai'n llywio gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried llythyr drafft at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn ei gyfarfod nesaf.

 

15.20 - 15.30

9.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) Llywodraeth Cymru ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm.

 

15.30 - 15.40

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

15.40 - 15.50

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

15.50 - 16.00

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

16.00 - 16.10

13.

Craffu ar hysbysiadau Llywodraeth Cymru: Cydsyniad i Offerynnau Statudol a wneir gan Lywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod, a chytunodd ar ei ddull o graffu o ran bod Llywodraeth Cymru yn cydsynio i Lywodraeth y DU wneud Offerynnau Statudol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch ei dull o hysbysu’r Senedd am benderfyniadau cydsynio o’r fath.

 

16.10 - 16.20

14.

Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog mewn perthynas â’r adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

 

16.20 - 16.30

15.

Yr adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ei drafodaeth ar yr adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau tan y cyfarfod dilynol.