Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30-14.30

2.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cath Wyatt, Rheolwr Bil

Grace Martins, Cyfreithwraig

 

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (PDF 1,087KB), fel y'i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol  (4.8MB)

 

LJC(6)-16-21 – Papur 1 – Nodyn briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn anfon llythyr at y Gweinidog ar ôl y sesiwn gyda chwestiynau ychwanegol yn ymwneud â'r Bil.

 

14.30-14.35

3.

Offerynnau statudol negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3B.

Dogfennau ategol:

3.1

pNeg(6)002 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys.

 

14.35-14.45

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

4.1

SL(6)087 - Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad o ran ei hymateb i’r adroddiad.

 

4.2

SL(6)091 - Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.3

SL(6)092 - Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.4

SL(6)093 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.5

SL(6)094 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.6

SL(6)095 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.7

SL(6)096 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.8

SL(6)100 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.9

SL(6)097 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd diwygiedig a nodwyd ac a drafodwyd yn y cyfarfod.

 

4.10

SL(6)088 - Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.11

SL(6)089 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

14.45-14.50

5.

Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7

Dogfennau ategol:

5.1

SL(6)090 – Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno.

 

14.50-14.55

6.

Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(6)004 - Rheoliadau Ystadegau'r DU (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

14.55 - 15.00

7.

Fframweithiau cyffredin

7.1

Fframwaith cyffredin dros dro: Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

15.00-15.05

8.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

8.1

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog, a’i fod wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.

 

8.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyng-Weinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’i fod wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.

 

15.05.-15.10

9.

Papurau i'w nodi

9.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Pŵer Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban: Ymchwiliad i ddefnyddio’r weithdrefn gwneud cadarnhaol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gynullydd Pwyllgor Pŵer Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith Senedd yr Alban ac, yn breifat, cytunwyd i ymateb maes o law.

 

9.2

Gohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

9.3

Gohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd y DU.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

15.10

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac o Eitem 1 y cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2021

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

 

15.10-15.25

11.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiwn gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a nododd y byddai'n ystyried ymateb y Gweinidog i'w lythyr gyda chwestiynau ychwanegol maes o law.

 

15.25-15.35

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno, ac y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm.

 

15.35-15.45

13.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.45-16.00

14.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

14.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - trafod yr adroddiad drafft diwygiedig.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o'i adroddiad ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Llywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.45-16.00

14.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) - Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

LJC(6)-16-21 - Papur 37 – Nodyn cyngor cyfreithiol

LJC(6)-16-21 – Papur 41 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

14.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a osodwyd ar 3 Rhagfyr 2021.

 

16.00-16.05

15.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 29 Tachwedd 2021 - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a ystyriwyd yn ei gyfarfod ar 29 Tachwedd 2021, a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Sefydliad Llafur Rhyngwladol: Confensiwn Trais ac Aflonyddu 2019 (Rhif 190), ac i rannu gohebiaeth gan y Prif Weinidog ar y DU / y Swistir: Confensiwn ar gydlynu nawdd cymdeithasol gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Hefyd, nododd y Pwyllgor y byddai copi o’i adroddiad yn cael ei roi i aelodau Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi.