Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Nododd y Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, nad oedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu mynychu'r sesiwn dystiolaeth a drefnwyd ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a'r Bil Diogelwch Adeiladau ac felly roedd Eitemau 2 a 7 ar yr agenda wedi'u canslo. Yn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog â chyfres o gwestiynau ynghylch y Memoranda.

 

2.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a’r Bil Diogelwch Adeiladau: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd – CANSLWYD

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Anna Hind, Cyfreithiwr Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Diogelwch Adeiladau

 

Dogfennau ategol:

13.30 - 13.35

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)068 – Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(6)072 - Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach mewn perthynas â’i hymateb.

 

13.35 - 13.40

4.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

4.1

WS-30C(6)003 – Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch y datganiad.

 

13.40 - 13.45

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin: y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ'r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau ac, yn y sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin i gydnabod y pwyntiau a godwyd yn y llythyr.

 

5.2

Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi: Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi.

 

5.3

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

5.4

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Ymweliad y Pwyllgor Cyfansoddiad â Senedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷr Arglwyddi.

 

5.5

Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) a (Rhif 20) 2021 a Datganiad Ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Prif Weinidog.

 

13.45

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

7.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a’r Bil Diogelwch Adeiladau: Trafod y dystiolaeth – CANSLWYD

13.45-13.55

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, gan drafod y prif faterion i’w cynnwys yn ei adroddiad. Cafodd adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei drafod ar 11 Hydref 2021 ond nid yw wedi'i osod eto. Nododd y Pwyllgor y câi’r adroddiad hwnnw ei ddiwygio i gyfeirio at y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol. Cytunodd y Pwyllgor i drafod drafft diwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.

 

13.55-14.05

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a’r prif faterion i’w cynnwys yn ei adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

14.05-14.15

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 

14.15-14.25

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Etholiadau – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 

14.25-14.35

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol – Gohebiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.

 

14.35-14.45

13.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod maes o law ac y byddai'n gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i'r Senedd nodi'r Cytundeb.

 

14.45-14.55

14.

Fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i ofyn am eglurhad ynghylch yr amserlenni ar gyfer fframweithiau cyffredin sydd i ddod.