Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Mewn sesiwn breifat, o dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer holl gyfarfodydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, pe bai nam technegol yn effeithio ar gysylltiad y Cadeirydd.

 

13.30-13.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

LJC(6)-10-21 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)062 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a derbyniodd ei adroddiad drafft.

 

13.35-13.40

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

3.1

SL(6)063 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021

LJC(6)-10-21 - Papur 2 - Adroddiad drafft

LJC(6)-10-21 – Papur 3 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 8 Hydref 2021

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(6)064 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

LJC(6)-10-21 - Papur 4 - Adroddiad drafft

LJC(6)-10-21 – Papur 5 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

 

13.40-13.45

4.

Papurau i’w nodi - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid

LJC(6)-10-21 – Papur 6 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 11 Hydref 2021 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

LJC(6)-10-21 – Papur 7 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 13 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd. Nododd y Pwyllgor y byddai'n derbyn tystiolaeth gan y Gweinidog mewn perthynas â'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladu a'r Bil Diwygio Prydles (Rhent Tir) ar 15 Tachwedd 2021.

 

13.45

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

 

13.45-13.55

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-10-21 – Papur 8 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

13.55-14.05

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft.

LJC(6)-10-21 - Papur 9 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

14.05-14.20

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Iechyd a Gofal

 

LJC(6)-10-21 – Papur 10 – Nodyn cyngor cyfreithiol

LJC(6)-10-21 – Papur 11 – Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch llawer o faterion yn ymwneud â'r Memorandwm.

 

14.20-14.35

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Etholiadau

 

LJC(6)-10-21 – Papur 12 – Nodyn cyngor cyfreithiol

LJC(6)-10-21 – Papur 13 – Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

LJC(6)-10-21 – Papur 14 – Papur briffio gan y Comisiwn Etholiadol: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU – yr effaith ar etholiadau yng Nghymru

LJC(6)-10-21 – Papur 15 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 12 Hydref 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad ar y Memorandwm mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

14.35-14.45

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd), a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion mewn perthynas â'r Memorandwm.