Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Roedd Samuel
Kurtz AS yn dirprwyo ar ei ran. |
|
13.30-13.35 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)049 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)052 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)050 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)053 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 LJC(6)-08-21 –
Papur 4 – Adroddiad
drafft LJC(6)-08-21 –
Papur 5 – Llythyr gan y
Prif Weinidog at y Llywydd, 24 Medi 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
13.35-13.40 |
Papurau i'w nodi: |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gohirio cyfarfod y Grŵp Rhyng-Weinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru LJC(6)-08-21 –
Papur 6 - Llythyr gan y
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 27 Medi 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd LJC(6)-08-21 –
Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd, 28 Medi 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd, i’w adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. |
||
Gohebiaeth gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru: Trydydd adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru LJC(6)-08-21 –
Papur 8 – Llythyr gan y Llywydd
Tribiwnlysoedd Cymru, 28 Medi 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a'r trydydd adroddiad
blynyddol gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac, yn breifat, cytunwyd i wahodd
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i sesiwn graffu ar y cyfle cyntaf. |
||
Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu’r system gyfiawnder a'r sector cyfreithiol yng Nghymru. LJC(6)-08-21 –
Papur 9 – Datganiad
ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, 30 Medi 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig. |
||
13.40 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig |
|
13.40-13.55 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - trafod yr adroddiad drafft. LJC(6)-08-21 –
Papur 10 – Adroddiad
drafft LJC(6)-08-21 –
Papur 11 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, 28 Mehefin 2021 LJC(6)-08-21 –
Papur 12 – Llythyr at y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol, 22 Medi 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu
a’r Llysoedd, a chytunodd i ystyried fersiwn ddrafft ddiwygiedig o’i adroddiad
yn y cyfarfod nesaf. |
|
13.55-14.05 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar LJC(6)-08-21 –
Papur 13 – Nodyn cyngor
cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd
i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf. |
|
14.05-14.15 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 LJC(6)-08-21 –
Papur 14 – Nodyn cyngor
cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd i drafod ei
adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf. |
|
14.15-14.25 |
Nodyn briffio ar gytundebau rhyngwladol LJC(6)-08-21 –
Papur 15 – Nodyn briffio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: ·
Y DU/Albania: Aildderbyn Pobl; ·
Y DU/Portiwgal: Cytundeb ynghylch Cyflogi
Aelodau'r Teulu sy'n rhan o Aelwyd Cenadaethau Diplomyddol; ·
Y DU/Antigua a Barbuda: sefydlu
Ffin Forwrol rhwng Anguilla ac Antigua a Barbuda; a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau yn y cyfarfod
nesaf. |