Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30-14.45

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol

James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfiawnder a Materion Cyfansoddiadol

 

 

LJC(6)-06-21 - Papur briffio

LJC(6)-06-21 – Papur 1 - Cylch gwaith y Pwyllgor: Adroddiad monitro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

14.45-14.50

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

LJC(6)-06-21 – Papur 2 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)043 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.

 

3.2

SL(6)045 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.

 

14.50-14.55

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(6)042 - Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

LJC(6)-06-21 – Papur 3 – Adroddiad drafft

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(6)046 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

LJC(6)-06-21 – Papur 4 – Adroddiad drafft

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

14.55-15.00

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth â’r Prif Weinidog: Craffu ar reoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd - Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru

LJC(6)-06-21 – Papur 5 – Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog, 10 Medi 2021

LJC(6)-06-21 – Papur 6 – Llythyr at y Prif Weinidog, 16 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog.

 

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid

LJC(6)-06-21 – Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 14 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

15.00

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

15.00-15.20

7.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd i ddychwelyd at y dystiolaeth hon yn ystod ei drafodaethau ar gynllunio strategol yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

15.20-15.35

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cymwysterau Proffesiynol - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-06-21 – Papur 8 – Adroddiad drafft

LJC(6)-06-21 – Papur 9 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

LJC(6)-06-21 – Papur 10 – Llythyr oddi wrth Weinidog y Gymraeg ac Addysg, 10 Medi 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 30 Medi 2021.

 

15.35-15.45

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-06-21 – Papur 11 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd a chytunodd arno, yn amodol ar fân ddiwygiadau.  Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 23 Medi 2021.

 

15.45-16.00

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

 

LJC(6)-06-21 – Papur 12 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

LJC(6)-06-21 – Papur 13 – Llythyr oddi wrth y Llywydd, 16 Gorffennaf 2021

LJC(6)-06-21 – Papur 14 – Llythyr at y Llywydd, 2 Gorffennaf 2021

LJC(6)-06-21 – Papur 15 – Gohebiaeth gan Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr, 15 Medi 2021

LJC(6)-06-21 – Papur 16 – Papur briffio gan Friends, Families and Travellers

LJC(6)-06-21 – Papur 17 – Tystiolaeth ysgrifenedig i Senedd y DU gan Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth ar frys am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â'r Memorandwm. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y Memorandwm yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

16.00-16.10

11.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 13 Medi 2021 - trafod yr adroddiad drafft

LJC(6)-06-21 – Papur 18 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, a chytunodd y byddai'n cael ei osod gerbron y Senedd maes o law.