Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 12/07/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
10.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd
ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
10.00 |
Cylch gorchwyl y Pwyllgor LJC(6)-01-21 –
Papur 1 – Cylch gorchwyl
y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau gylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r
Pwyllgor. |
|
10.00-11.00 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: Sesiwn dystiolaeth Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Bernadette Payne,
Gwasanaethau Cyfreithiol Eifiona Williams,
Pennaeth Dŵr Howard Davies,
Rheolwr Economi Gylchol Jayne Anstee,
Rheolwr Polisi Rheoliadau Gwastraff Olwen Spiller,
Pennaeth Ansawdd yr Amgylchedd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol LJC(6)-04-21 – Briff LJC(6)-04-21 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol LJC(6)-04-21 - Papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil LJC(6)-04-21 –
Papur 2 – Llythyr gan y
Pwyllgor Busnes, 7 Gorffennaf 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 3 – Llythyr at y
Pwyllgor Busnes, 2 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth
ychwanegol i'r Pwyllgor, a fyddai'n cael ei chadarnhau mewn gohebiaeth. |
|
11.00-11.05 |
Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B. LJC(6)-04-21 –
Papur 4 – Offerynnau
statudol negyddol arfaethedig sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
pNeg(6)001 - Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y
dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys. |
||
11.05-11.10 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 LJC(6)-04-21 –
Papur 5 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(6)016 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr
adroddiad drafft. |
||
SL(6)017 – Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr
adroddiad drafft. |
||
11.10-11.15 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)019 – Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 6 – Adroddiad drafft LJC(6)-04-21 –
Papur 7 – Rheoliadau LJC(6)-04-21 –
Papur 8 – Memorandwm
Esboniadol LJC(6)-04-21 –
Papur 9 – Llythyr gan
Weinidog yr Economi, 28 Mehefin 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)020 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 10 – Adroddiad
drafft LJC(6)-04-21 –
Papur 11 – Rheoliadau LJC(6)-04-21 –
Papur 12 – Memorandwm
Esboniadol LJC(6)-04-21 –
Papur 13 – Llythyr gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 28 Mehefin 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 31 – Ymateb Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)018 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 14 – Adroddiad drafft LJC(6)-04-21 –
Papur 15 – Rheoliadau LJC(6)-04-21 –
Papur 16 – Memorandwm
Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. |
||
11.15-11.20 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)009 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 17 – Adroddiad y
Pwyllgor LJC(6)-04-21 –
Papur 18 – Ymateb pellach
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb arall gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)013 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 19 – Adroddiad y
Pwyllgor LJC(6)-04-21 –
Papur 20 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
11.20-11.25 |
Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin LJC(6)-04-21 –
Papur 21 – Datganiad
ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, 2 Mehefin 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 22 – Adroddiad
Llywodraeth y DU: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ddatganiad Llywodraeth Cymru ac
adroddiad Llywodraeth y DU. |
|
11.25-11.30 |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth LJC(6)-04-21 - Papur 23 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 1 Gorffennaf 2021 LJC(6)-04-21 -
Papur 24 - Cod Asesiad
Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
||
Llythyr gan Bennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd: Ymchwiliad posibl LJC(6)-04-21 –
Papur 25 – Llythyr gan
Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a
Lleferydd, 5 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol y
Therapyddion Iaith a Lleferydd ac, yn breifat, cytunodd i drafod cynigion ar
gyfer gwaith yn y dyfodol fel rhan o'i waith cynllunio strategol yn nhymor yr
hydref. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ymestyn Cyfnodau Pontio) 2021 LJC(6)-04-21 –
Papur 26 – Llythyr gan y
Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, 7 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Gwaith Archwilio Cymru LJC(6)-04-21 – Papur 32 – Llythyr
gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, 9 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru. |
||
11.30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y
sesiwn gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog
17.42(vi) i gyfarfod yn breifat yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Medi 2021
(union ddyddiad i’w gadarnhau) i drafod ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd, ar yr amod bod y Cadeirydd yn
ymgynghori â'r Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 17.46 (ac ar yr amod bod yr
Aelodau ar gael). |
||
Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio LJC(6)-04-21 –
Papur 27 – Ffyrdd o
weithio LJC(6)-04-21 –
Papur 28 – Gweithgarwch
cynnar y pwyllgor LJC(6)-04-21 –
Papur 29 – Adroddiad Rhinweddau
ar gyfer Offerynnau Statudol a osodwyd ond na chraffodd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad arnynt yn ffurfiol yn y Bumed Senedd LJC(6)-04-21 –
Papur 30 - Hyfforddiant a
Datblygu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i
bwyllgorau, a rolau a chyfrifoldebau’r Aelodau a swyddogion. Hefyd, trafododd y
Pwyllgor y ffordd orau o weithio a'i ddull o weithio ddechrau tymor yr hydref.
Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd i gynllunio gwaith strategol ddechrau tymor yr
hydref. Os bydd unrhyw nam technegol yn effeithio ar y Cadeirydd,
o dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Jayne Bryant AS yn
gadeirydd dros dro ar gyfer holl gyfarfodydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, pe bai'r angen yn codi. |