Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
13.00-14.30 |
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Mick Antoniw AS,
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Piers Bisson,
Cyfarwyddwr, Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder - Llywodraeth
Cymru Adam Turbervill,
Uwch Gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol - Llywodraeth Cymru Robert Parry,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Thribiwnlysoedd Cymru - Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â materion o fewn ei gylch gwaith. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
|
14.45-14.50 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 Dogfennau ategol: |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)205 – Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)208 – Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)206 – Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.50-14.55 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)207 – Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)209 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
14.55-15.00 |
Fframweithiau cyffredin |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframweithiau Cyffredin Dros dro Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
15.00-15.05 |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd Aelodau’r Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif
Weinidog a chan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd
yr Aelodau i ymateb cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a
gaiff ei gynnal ar 29 Mehefin. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Canlyniad cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Darparu crynodebau ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi. |
||
15.05-15.10 |
Papurau i’w nodi |
|
Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – Penodi Panel Arbenigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd
Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder. |
||
15.10 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
15.10-15.25 |
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – trafod y dystiolaeth. Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
|
15.25-15.40 |
Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yn ymwneud â
Chytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE, a thrafododd ei ganfyddiadau
cynnar yn sgil blwyddyn gyntaf y Pwyllgor ar waith. Yn ogystal, cytunodd y
Pwyllgor i gyflwyno ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin
ynghylch ‘Cynrychiolaeth y DU yn yr UE: beth sydd wedi newid a sut mae’n
gweithio?’ |
|
15.40-15.55 |
Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 6 Mehefin 2022 – trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau
rhyngwladol a drafodwyd ar 6 Mehefin 2022, a chytunodd arno. |
|
15.55-16.10 |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen
waith. |