Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.30-13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)170 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd ar y Cyd ac Unigol Personau sy'n Ymadael â Gofal) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.

 

2.2

SL(6)171 - Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.

 

2.3

SL(6)179 - Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.

 

2.4

SL(6)174 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy'n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon.

 

(13.35-13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)173 - Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

(13.40-13.45)

4.

Fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddwy eitem o ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin a'r ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor y Swyddfa Weithredol.

 

4.1

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer planhigion iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

 

4.2

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer gwrteithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

 

4.3

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

 

(13.45)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol - Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog cyn cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol.

 

(13.45-13.50)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog: Cyhoeddi cylch gorchwyl Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19 ar lefel y DU gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan Brif Weinidog Cymru

 

6.2

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

6.3

Gohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.

 

(13.50)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig

 

(13.50-14.20)

8.

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ddychwelyd at fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

(14.20-14.35)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyrioedd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), a chytunodd i ystyried ei adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

 

(14.35-14.40)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd a nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) Llywodraeth Cymru ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol.

 

(14.40-14.50)

11.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 7 Mawrth 2022 a 14 Mawrth 2022 - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a ystyriwyd ar 7 Mawrth 2022 a 14 Mawrth 2022, a chytunodd arno.