Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30-14.30) |
Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Hewitt,
Trysorlys Cymru Anna Adams,
Trysorlys Cymru Lynsey Edwards,
Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â
Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) |
|
(14.30-14.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)149 - Rheoliadau Wyau (Cymru) 2020 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(14.35-14.45) |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)148 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)150 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)152 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(14.45-14.55) |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)118 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
(14.55-15.00) |
Fframweithiau cyffredin |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
(15.00-15.05) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch y Grŵp Rhyng-Weinidogol: yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: COP26 rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
(15.05-15.10) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. |
||
(15.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(15.10-15.30) |
Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod ei sesiwn gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth
Leol a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am ragor o wybodaeth. Trafododd
y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad hefyd. |
|
(15.30-15.40) |
Trafod cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: · Trwyddedau Rheilffordd ar gyfer
Cysylltiad Sefydlog y Sianel · Trwyddedau Gyrru Trenau ar gyfer
Cysylltiad Sefydlog y Sianel a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau
yn y cyfarfod nesaf. |
|
(15.40-15.55) |
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Memorandwm Rhif 3) - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a
chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15.55-16.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Memorandwm Rhif 2) - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli
Cymorthdaliadau, a chytunodd arno. |