Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/12/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 - 14.15 |
Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Briff technegol gan Lywodraeth Cymru (yn ddarostyngedig i’r Bil yn cael ei gyflwyno) Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol gan swyddogion
Llywodraeth Cymru ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Ymunodd aelodau’r Pwyllgor Cyllid â’r
Pwyllgor ar gyfer y sesiwn friffio. |
|
14.15 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
14.15 - 14.20 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)098 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.20 - 14.25 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)099 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)103 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)101 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
14.25 - 14.30 |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Cyllid. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio etc.) (Rhif 2) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Plaladdwyr (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol, a oedd yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y
Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu
(Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd). |
||
14.30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
14.30 - 14.40 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Memorandwm Rhif 3) Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith
Lesddaliad (Rhent Tir). Nododd y Pwyllgor bod y Gweinidog wedi ymateb i’w
adroddiadau ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol blaenorol ar y Bil, a bod y
ddadl yn y Cyfarfod Llawn o ran y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021. |
|
14.40 - 14.50 |
Nodyn briffio ar gytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: ·
Cymorth Credyd Swyddogol y
DU/Wcrain ar gyfer Datblygu Galluoedd Llynges yr Wcrain; ·
Cytundeb Cydweithrediad Amddiffyn y
DU/Kenya; ·
Cyfnewid Gwybodaeth rhwng y
DU/Awstralia/UDA am Yriant Niwclear Llyngesol; a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau
yn y cyfarfod nesaf. |
|
14.50 - 15.00 |
Fframweithiau cyffredin Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am y
fframweithiau cyffredin. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Cwnsler Cyffredinol i
roi tystiolaeth ar y fframweithiau cyffredin mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
15.00 - 15.10 |
Materion yn ymwneud â chyfiawnder o fewn cylch gwaith y Pwyllgor – diweddariad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn
ymwneud â chyfiawnder, yn enwedig gwaith cychwynnol sy'n cael ei wneud gan y
Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion. Cytunodd y Pwyllgor i drafod blaenraglen waith
ddiwygiedig yn y flwyddyn newydd. |