Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS. |
|
13.30-13.35 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 LJC(6)-12-21 –
Papur 1 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(6)066 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2021 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd ar ei
adroddiad drafft. |
||
13.35-13.40 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)071 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 LJC(6)-12-21 – Papur 1 – Adroddiad drafft LJC(6)-12-21 –
Papur 2 – Llythyr gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Llywydd, 29 Hydref 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth
Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd
a nodwyd. |
||
SL(6)067 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 LJC(6)-12-21 – Papur 4 – Adroddiad drafft LJC(6)-12-21 -
Papur 5 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 26 Hydref 2021 LJC(6)-12-21 -
Papur 19 - Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)069 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 LJC(6)-12-21 – Papur 6 – Adroddiad drafft LJC(6)-12-21 -
Papur 7 – Llythyr gan y
Prif Weinidog 29 Hydref 2021 LJC(6)-12-21 –
Papur 8 – Datganiad ysgrifenedig
gan Lywodraeth Cymru, 29 Hydref 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch
geiriad y datganiad ysgrifenedig sy’n cyd-fynd â’r offeryn. |
||
SL(6)070 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
13.40-13.45 |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gyda’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd: Sesiwn dystiolaeth ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru LJC(6)-12-21 –
Papur 10 – Llythyr gan yr
Arglwydd Thomas, 2 Tachwedd 2021 LJC(6)-12-21 –
Papur 11 – Llythyr at yr
Arglwydd Thomas, 26 Hydref 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Arglwydd Thomas o
Gwmgiedd, a’i fod wedi derbyn gwahoddiad i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar 22
Tachwedd 2021. |
||
Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pwer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru LJC(6)-12-21 –
Papur 12 – Datganiad
ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, 1 Tachwedd 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad gan Lywodraeth Cymru. |
||
13.45 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
13.45-14.00 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) - trafod yr adroddiad drafft LJC(6)-12-21 – Papur 13 – Adroddiad drafft LJC(6)-12-21 – Papur 14 – Llythyr gan y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 2 Tachwedd 2021 LJC(6)-12-21 -
Papur 15 – Llythyr at y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol, 19 Hydref 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac
Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) a chytunodd i’w gwblhau y tu
allan i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod
erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
|
14.00-14.15 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol - papur briffio LJC(6)-12-21 –
Papur 16 – Papur briffio
gan y Gwasanaeth Ymchwil LJC(6)-12-21 –
Papur 17 – Llythyr at y
Pwyllgor Busnes, 29 Hydref 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur briffio ar Femoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i barhau i fonitro’r Memoranda y mae
Llywodraeth Cymru yn eu gosod gerbron y Senedd. |
|
14.15-14.20 |
Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 1 Tachwedd 2021 - trafod yr adroddiad drafft LJC(6)-12-21 –
Papur 18 – Adroddiad
drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau
rhyngwladol a drafodwyd yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd 2021, a chytunodd arno.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o
wybodaeth mewn perthynas â nifer o faterion yn ymwneud â ‘Y DU / Swistir:
Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol’, ac i dynnu sylw'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y cytundeb hwn. Hefyd, nododd y Pwyllgor y
byddai’r adroddiad yn cael ei rannu â Phwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi. |