Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/09/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

LJC(6)-07-21 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)047 - Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn drafft a derbyniodd ei adroddiad drafft.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth gyda’r Arglwydd Kinnoull a Syr Oliver Heald: Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE

LJC(6)-07-21 – Papur 2 – Llythyr gan yr Arglwydd Kinnoull a Syr Oliver Heald MS, 21 Medi 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 3 – Llythyr at yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd Pwyllgor Undeb Ewropeaidd, Tŷ'r Arglwyddi, 25 Awst 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 4 – Llythyr at yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd Pwyllgor Undeb Ewropeaidd, Tŷ'r Arglwyddi, 16 Gorffennaf 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 5 – Llythyr at Syr Oliver Heald AS, 16 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Arglwydd Kinnoull a Syr Oliver Heald mewn perthynas â Chynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE.

 

3.2

Gohebiaeth gan Ymgyrch 5050Amrywiol: Amrywiaeth yn y Chweched Senedd

LJC(6)-07-21 – Papur 6 – Llythyr gan Ymgyrch 5050Amrywiol, 22 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan ymgyrch 5050Amrywiol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

5.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - adroddiad drafft

LJC(6)-07-21 – Papur 7 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

 

LJC(6)-07-21 – Papur 8 – Nodyn cyngor cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

7.

Dull strategol cylch gwaith a blaenraglen waith y Pwyllgor

LJC(6)-07-21 – Papur 9 – Papur trafod cynllunio strategol

LJC(6)-07-21 – Papur 10 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

LJC(6)-07-21 – Papur 11 - Blaenraglen waith arfaethedig ddrafft

LJC(6)-07-21 – Papur 12 – Llythyr gan y Llywydd, 22 Medi 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 13 - Llythyr gan Bennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, 30 Gorffennaf 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 14 – Llythyr gan Bennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, 21 Gorffennaf 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 15 – Llythyr gan Bennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, 6 Gorffennaf 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 16 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 20 Gorffennaf 2021

LJC(6)-07-21 – Papur 17 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 10 Awst 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sut i fynd ati o ran ei gylch gwaith eang a thrafododd ei flaenraglen waith ddrafft ar gyfer y misoedd nesaf. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried papur arall yn amlinellu ei flaenraglen waith mewn cyfarfod yn y dyfodol.