Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 241 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio gan y tân yn y Fenni?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr her 50 diwrnod newydd i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio gan y tân yn y Fenni?

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr her 50 diwrnod newydd i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Llongyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ar eu llwyddiannau diweddar, gan gynnwys unigolyn a chlwb yn ennill yn y gwobrau Prydeinig

Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am - 90 mlynedd o Neuadd Les y Glowyr Ystradgynlais (7 Gorffennaf)

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

NDM8718 Buffy Williams (Rhondda)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024, a'r fersiwn hawdd ei deall a osodwyd hefyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adfer safleoedd glo brig

NDM8720 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adfer safleoedd glo brig, a osodwyd ar 8 Awst 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) preswylwyr Abertawe ar 22 Awst 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 13 Medi 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

NDM8720 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adfer safleoedd glo brig, a osodwyd ar 8 Awst 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) preswylwyr Abertawe ar 22 Awst 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 13 Medi 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog

NDM8721 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.

2. Yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei Llywodraeth.

Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros:

a) cyflwyno fformiwla cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;

b) datganoli Ystad y Goron;

c) digolledu Cymru’n llawn am wariant ar HS2;

d) gwrthdroi’r penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac

e) cael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:

a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;

b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac

c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8721 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.

2. Yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

39

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei Llywodraeth.

Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros:

a) cyflwyno fformiwla cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;

b) datganoli Ystad y Goron;

c) digolledu Cymru’n llawn am wariant ar HS2;

d) gwrthdroi’r penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac

e) cael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

42

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:

a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;

b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac

c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

25

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.

2. Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:

a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;

b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac

c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

25

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.53

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8717 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol - pla Cymru heddiw.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.57