Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 177(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/12/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
y 12 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi Gareth
Davies (Dyffryn Clwyd): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith cau
Pontins ym Mhrestatyn ar yr economi leol a thwristiaeth yn Sir Ddinbych? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Atebwyd gan Weinidog yr Economi Gareth
Davies (Dyffryn Clwyd): Beth yw asesiad Llywodraeth
Cymru o effaith cau Pontins ym Mhrestatyn ar yr economi leol a thwristiaeth yn
Sir Ddinbych? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gwnaeth
Eluned Morgan ddatganiad am - Teyrnged i Glenys Kinnock. Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad am - 225 mlynedd o gamlas Abertawe. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - 120 mlynedd ers genedigaeth Jethro Gough o
Aberpennar, academydd byd-enwog yn bennaf ym maes patholeg. Gwnaeth
Delyth Jewell ddatganiad am - 75 mlynedd ers y Datganiad Cyffredinol o
Hawliau Dynol (10 Rhagfyr). |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y pancreas NDM8385 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod mis Tachwedd yn
Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod
Byd-eang Canser y Pancreas; b) bod y cyfraddau
goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop
a'r byd; c) bod canser y
pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda
phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch; d) ar ôl canfod y
canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal
sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl
yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb
help i reoli symptomau; ac e) ar ôl cael
diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf
o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis. 2. Yn deall bod angen
i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir
drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. 3. Yn cefnogi
ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei
weithredu. 4. Yn canmol yr holl
elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion
diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i
bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion. Cyd-gyflwynwyr Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) James Evans (Brycheiniog a
Sir Faesyfed) Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.17 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8385 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd
2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas; b)
bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu
â llawer o Ewrop a'r byd; c)
bod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o
amser gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch; d)
ar ôl canfod y canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y
wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth,
gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun
cymorth ar waith, a heb help i reoli symptomau; ac e)
ar ôl cael diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y
gyfran isaf o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r
diagnosis. 2.
Yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a
thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. 3.
Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn
cael ei weithredu. 4.
Yn canmol yr holl elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am
eu hymdrechion diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno
pob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu
hymdrechion. Cyd-gyflwynwyr Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cefnogwyr Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Am 16.02, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ddatganiad byr i’r Aelodau yn eu hysbysu o ddigwyddiad yn
effeithio ar Ysbyty Maelor Wrecsam a chadarnhaodd nad oedd unrhyw anafiadau
difrifol wedi’u cofnodi ar hyn o bryd. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd NDM8437 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod rôl
cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg wrth gefnogi economi Cymru. 2. Yn gresynu na fu
strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cludo llwythi ar y
ffyrdd ers 2008. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi
ar y ffyrdd sy'n cynnwys: a) canolfannau
llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru; b) rhwydwaith helaeth
o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer coetsys a cherbydau nwyddau trwm
trydan neu hydrogen; ac c) newidiadau i'r
system gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo llwythi
ar y ffyrdd mor effeithlon â phosibl. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at effaith
niweidiol Brexit ar y sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg
yng Nghymru, gyda chyfeintiau llwythi Cymru 27 y cant yn is na lefelau 2019 o
hyd. Yn credu y byddai
ailymuno â Marchnad Sengl Ewrop yn rhoi hwb hanfodol i fasnach llwythi ym
mhorthladdoedd Cymru megis Caergybi, a'r sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r
diwydiant logisteg ar draws Cymru. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn nodi bod Llwybr
Newydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cludo llwythi a logisteg ac yn
cefnogi datblygiad cynllun ar gyfer cludo llwythi a logisteg. Yn cefnogi’r gwaith
hwn, a fydd yn golygu ffordd aml-ddull o gydweithio gyda diwydiant i hyrwyddo: a) gwelliannau i’r
cyfleusterau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru; b) camau i sicrhau bod
Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n
gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm a choetsys trydan a hydrogen, gan
adlewyrchu ansicrwydd o fewn y diwydiant ynghylch y datblygiadau hyn; ac c) gwaith i fabwysiadu
dull cenedlaethol a strategol o wella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi ar y
ffyrdd ledled Cymru. Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth
Cymru 2021 | LLYW.CYMRU Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8437 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod rôl cludo
llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg wrth gefnogi economi Cymru. 2. Yn gresynu na fu strategaeth
benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ers 2008. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd
sy'n cynnwys: a) canolfannau llesiant diogel
ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru; b) rhwydwaith helaeth o
bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer coetsys a cherbydau nwyddau trwm
trydan neu hydrogen; ac c) newidiadau i'r system
gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo llwythi ar y
ffyrdd mor effeithlon â phosibl.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at effaith niweidiol Brexit ar y sector cludo
llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg yng Nghymru, gyda chyfeintiau
llwythi Cymru 27 y cant yn is na lefelau 2019 o hyd. Yn credu y byddai ailymuno â Marchnad Sengl Ewrop yn rhoi
hwb hanfodol i fasnach llwythi ym mhorthladdoedd Cymru megis Caergybi, a'r
sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg ar draws Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: Yn nodi bod Llwybr Newydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ar
gyfer cludo llwythi a logisteg ac yn cefnogi datblygiad cynllun ar gyfer cludo
llwythi a logisteg. Yn cefnogi’r gwaith hwn, a fydd yn golygu ffordd
aml-ddull o gydweithio gyda diwydiant i hyrwyddo: a) gwelliannau i’r cyfleusterau llesiant diogel ar gyfer
gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru; b) camau i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i
fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm a
choetsys trydan a hydrogen, gan adlewyrchu ansicrwydd o fewn y diwydiant
ynghylch y datblygiadau hyn; ac c) gwaith i fabwysiadu dull cenedlaethol a strategol o
wella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ledled Cymru. Llwybr
Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 | LLYW.CYMRU Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tlodi tanwydd NDM8435 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod yr
argyfwng costau byw presennol yn dangos pa mor fregus yw cymunedau yng Nghymru
i gost ynni. 2. Yn gresynu bod
amcangyfrif o hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm isel yng Nghymru mewn tlodi
tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithredu'r
Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar fyrder i gefnogi aelwydydd incwm isel i wneud
eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn; a b) gosod targedau
interim yn ei Chynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 i fesur cynnydd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi'r rhai mewn angen
gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, dileu
is-bwynt (a) a rhoi yn ei le: gweithredu'r Rhaglen
Cartrefi Clyd newydd ar frys i gefnogi aelwydydd incwm isel, pobl hŷn a
phobl sy'n byw gyda salwch angheuol i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran
ynni y gaeaf hwn. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: cyflwyno cerrig
milltir interim i'r Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035. Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw
Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd cyn gaeaf 2023
er gwaethaf sicrwydd y byddai'n gwneud hynny. Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r gwaith
parhaus gan Ofgem a Llywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu heriau
costau byw ac i ddiogelu defnyddwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.43 NDM8435 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu bod yr argyfwng costau byw presennol yn dangos pa mor fregus yw
cymunedau yng Nghymru i gost ynni. 2.
Yn gresynu bod amcangyfrif o hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm isel yng
Nghymru mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill
2022. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar fyrder i gefnogi aelwydydd incwm
isel i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn; a b)
gosod targedau interim yn ei Chynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 i fesur
cynnydd. 4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi'r rhai mewn
angen gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.37 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8424 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Cynyddu'r defnydd o
drafnidiaeth gyhoeddus: pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.43 NDM8424 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynyddu'r defnydd o
drafnidiaeth gyhoeddus: pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim |