Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 175
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.05 Gwnaeth Huw
Irranca-Davies ddatganiad ar - 15 mlynedd o Pontyclun Bosom Pals. Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar - Parc gwledig Cwm Dâr yn troi’n 50 (3 Rhagfyr). Gwnaeth Buffy Williams ddatganiad ar - Diwrnod AIDS y Byd (1 Rhagfyr). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Sam Rowlands - Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.11 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd NDM8417 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol ‘Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn
oes newydd’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2023. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd
2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.10 NDM8417 Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Cysylltiadau rhwng Cymru ac
Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2023. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22
Tachwedd 2023. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Gweithrediad mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23 NDM8418 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad
mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23, a osodwyd ar 21
Medi 2023. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd
2023. Ymatebodd
Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) ar 30 Hydref 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.01 NDM8418 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad mesurau interim diogelu'r
amgylchedd 2022-23, a osodwyd ar 21 Medi 2023. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22
Tachwedd 2023. Ymatebodd Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) ar 30 Hydref
2023. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach NDM8420 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd Dydd
Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023. 2. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi
cymunedau a datblygu’r economi leol. 3. Yn croesawu’r
toriadau gan Ganghellor y Trysorlys i gyfraniadau yswiriant gwladol, a fydd o
fudd i bobl hunangyflogedig o fis Ebrill 2024 ymlaen. 4. Yn annog cymunedau
i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio pob
ysgogiad sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well; a b) parhau i gefnogi
busnesau bach drwy newidiadau i bolisïau caffael ar draws y sector cyhoeddus. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn gresynu at y ffaith
bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi camreoli’r economi gan
achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i fusnesau bach sydd bellach
yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u cymharu â busnesau o’r un maint
mewn economïau tebyg. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn gresynu na fydd y
toriad arfaethedig i Yswiriant Gwladol yn gwneud fawr ddim i leddfu effaith
llusgiad cyllidol ar weithwyr Cymru yn y sector busnesau bach. Yn gresynu ymhellach
fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi israddio ei rhagolygon twf am y ddwy
flynedd nesaf, a fydd yn atal ffyniant ein sector busnesau bach a chanolig. Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn croesawu: a) y cymorth y mae
busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy
wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r Grant Rhwystrau
rhag Dechrau Busnes; a b) dull Llywodraeth
Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o
fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.37 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8420 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd Dydd
Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023. 2. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi
cymunedau a datblygu’r economi leol. 3. Yn croesawu’r
toriadau gan Ganghellor y Trysorlys i gyfraniadau yswiriant gwladol, a fydd o
fudd i bobl hunangyflogedig o fis Ebrill 2024 ymlaen. 4. Yn annog cymunedau
i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio pob
ysgogiad sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well; a b)
parhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau i bolisïau caffael ar draws y
sector cyhoeddus.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn
gresynu at y ffaith bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi
camreoli’r economi gan achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i
fusnesau bach sydd bellach yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u
cymharu â busnesau o’r un maint mewn economïau tebyg. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant
3 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu
pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn
croesawu: a)
y cymorth y mae busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth
Cymru drwy wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r
Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes; a b) dull Llywodraeth
Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o
fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8420 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd Dydd
Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023. 2. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi
cymunedau a datblygu’r economi leol. 3. Yn gresynu at y ffaith bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi
camreoli’r economi gan achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i
fusnesau bach sydd bellach yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u
cymharu â busnesau o’r un maint mewn economïau tebyg. 4. Yn annog cymunedau
i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu. 5. Yn croesawu: a) y cymorth y mae busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan
Lywodraeth Cymru drwy wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu
Cymru a’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes; a b)
dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r
cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar
draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.32 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8421 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Pwysigrwydd rygbi
llawr gwlad mewn cymunedau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.37 NDM8421 James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Pwysigrwydd rygbi
llawr gwlad mewn cymunedau |