Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 171(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 4 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.26

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gofynnwyd y 4 cwestiwn.

(20 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn sgil cyhoeddi Adolygiad Annibynnol Undeb Rygbi Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn sgil cyhoeddi Adolygiad Annibynnol Undeb Rygbi Cymru?

(0 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw Datganiadau 90 Eiliad

(30 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25

NDM8404 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, a osodwyd gerbron y Senedd ar 8 Tachwedd 2023, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8404 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024-25, a osodwyd gerbron y Senedd ar 8 Tachwedd 2023, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

12

42

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

7.

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i atal gwerthu e-sigaréts untro

NDM8366 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;

b) cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;

c) mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;

d) diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r ysgyfaint; ac

e) rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn cynhyrchion untro.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diwrnod Rhyngwladol y Dynion

NDM8405 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2023 yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd: digwyddiad blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod a mynd i'r afael â'r heriau iechyd meddwl a chorfforol y mae dynion yn eu hwynebu.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

NDM8405 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2023 yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd: digwyddiad blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod a mynd i'r afael â'r heriau iechyd meddwl a chorfforol y mae dynion yn eu hwynebu.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.09

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8395 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Mynediad at ofal ysbyty yn y de-ddwyrain

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

NDM8395 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Mynediad at ofal ysbyty yn y de-ddwyrain